Drysau PCVu a Chyfansawdd ar gyfer Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Os ydych eisiau’r cyfuniad gorau o ran pris a pherfformiad mae Peninsula yn argymell casgliad Solidor. Mae’r rhain yn ddrysau cyfansawdd, craidd pren, solet wedi’u laminadu sydd gyda’r gorau yn y diwydiant. Gyda thrwch o 48mm, mae Solidor bron i 10% yn fwy trwchus na’r rhan fwyaf o ddrysau eraill.
Mae pob drws Solidor yn rhagori ar y gofynion rheoliadau adeiladu, yn cynnwys nifer o systemau cloi Secured by Design, ac ar gael mewn amrywiaeth eang o liwiau a dyluniadau traddodiadol a chyfoes.
Mae drws Solidor gan Peninsula Home Improvements yn cynnig mynedfa drawiadol, ddiogel o ansawdd uchel i unrhyw gartref.
Prif nodweddion drysau Solidor sydd ar gael gan Peninsula:
Di-blwm, proffil 5 siambr gyda deunydd 100% cyfnerthedig wedi’i ailgylchu l Craidd pren solet sy’n cadw gwres i mewn l Wyneb plastig thermol lliw, cadarn l Effaith realistig graen coed neu orffeniad llyfn l Ramp alwminiwm opsiynol i hwyluso mynediad.
Dyluniwch eich Ddrws Cyfansawdd eich Hun Ar-lein!
Eisiau gweld eich drws delfrydol cyn ei brynu? Rhowch gynnig ar ein dylunydd drysau heddiw a dyluniwch y drws yr ydych wastad wedi bod eisiau!

Ddogfennau i'w Lawrlwytho