Drysau Coed Caled ar gyfer Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Does dim i guro edrychiad coed caled. Mae Peninsula Home Improvements yn cyflenwi drysau coed caled soled o ansawdd mewn dewis eang o ddyluniadau ac arddulliau i fodloni gofynion cartrefi modern, hanesyddol a rhestredig neu mewn ardaloedd cadwraeth.
Prif nodweddion drysau coed caled sydd ar gael gan Peninsula:
Coed caled Sapele ac Idigbo o ansawdd (eraill ar gael os gofynnwch) l Dewis eang o liwiau ar gael mewn gorffeniadau sy’n para l Pob un yn cael ei fesur yn bwrpasol l Gwasanaeth dylunio llawn ar gael l Dewis llawn o arddulliau ffenestri addas ar gael hefyd yn ogystal ag ategolion pren, byrddau ffenestri, architrafau a mowldinau.
Drysau Coed Caled – Cadarn a Diogel
I sicrhau eu bod yn para am hir ac yn dal i edrych yn dda mae’r holl ddrysau Coed Cochion wedi’u trin â phroses wactod ddeuol (double vacuum) i safon BS 5589. Mae’r holl wydr wedi’i selio â gasged er mwyn i’r sêl ar y gwydr bara.
Mae cloeon bachyn 5-pwynt Fullex® (cymeradwywyd gan ABI) ar y drysau a defnyddiwyd technegau gwaith coed traddodiadol, cadarn i’w gwneud. Mae dewis o fachau diogelwch, cloeon diogelwch ar gyfer plant, colfachau dianc rhag tân a gwydr diogelwch hefyd ar gael.
