Drysau Alwminiwm ar gyfer Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Mae alwminiwm, a oedd yn arfer cael ei gysylltu â dyluniadau adeiladau masnachol yn unig, bellach wedi'i sefydlu fel deunydd o ddewis ar gyfer adeiladau preswyl cyfoes, moethus o’r radd uchaf.
Mae Peninsula Home Improvements wedi llunio partneriaeth â’r gwneuthurwyr blaenllaw Solarlux ac Internorm, i gynnig dewis trawiadol o ddrysau ffrynt, llithro a deublyg alwminiwm sy'n cyfuno arddull, ffurf a phwrpas.
Mae nifer o fanteision allweddol yn perthyn i alwminiwm; mae’r ffaith ei fod yn gadarn ac yn ysgafn yn golygu bod modd defnyddio fframiau cul iawn, sy'n addas hyd yn oed ar gyfer y paneli gwydr mwyaf, ac mae’n bosibl rhoi haen bowdwr mewn unrhyw liw, ac wrth gwrs mae'n wydn heb lawer o waith cynnal a chadw.
Yn thermol effeithlon, yn cynnwys ffrâm alwminiwm gyda stribed polyamid, ffenestri a drysau alwminiwm yw'r dewis perffaith ar gyfer cartref eich breuddwydion neu ar gyfer adnewyddu eich tŷ.
Drysau Alwminiwm ar gyfer Eiddo Masnachol
Mae gan Peninsula hefyd gryn brofiad o osod gwydrau alwminiwm yn y sector masnachol. Mae dewis eang o baent a gorffeniadau wedi’u hanodeiddio a’u selio’n llawn i sicrhau perfformiad uchel; o ddrysau a ffenestri i waliau llen a ffryntiad siopau, bydd gennym system sy’n addas i’ch gofynion penodol.