Ffenestri a Drysau VELFAC

Am VELFAC

Fe’i sefydlwyd yn Nenmarc dros 50 mlynedd yn ôl, a VELFAC bellach yw prif wneuthurwr ffenestri a drysau cyfansawdd y DU. Mae gan VELFAC enw da heb ei ail fel cwmni sy’n deall ‘sut i fanteisio ar olau dydd'. Ynghyd â’i chwaer gwmni VELUX, mae VELFAC yn rhan o VKR Holding, grŵp rhyngwladol sy'n cyflenwi ffenestri a drysau o ansawdd uchel wedi’u cynllunio i sicrhau awyr iach, golau dydd a gwell amodau dan do.

Gwydrau cyfansawdd VELFAC - trosolwg:

Mae ffenestri a drysau cyfansawdd VELFAC yn cyfuno alwminiwm allanol hawdd ei gynnal â choed mewnol naturiol, ac maent yn enwog am eu steil modern, cadernid arbennig, inswleiddio rhagorol, a’u dyluniad diogel a chynaliadwy. Mae'r ffrâm gul yn gwneud y mwyaf o olau naturiol, ac mae’r ffaith eu bod yn unffurf yn golygu bod pob uned yn edrych yr un fath y tu allan. Mae'r holl ffenestri VELFAC yn cael eu cynhyrchu’n bwrpasol, ac mae’n bosibl cael gwahanol orffeniadau i bob elfen o’r ffrâm.

VELFAC yw'r gwydrau delfrydol ar gyfer unrhyw gartref, ac yn arbennig:

Ffenestr gyfansawdd VELFAC 200 - prif nodweddion a manteision

  • Ffrâm fewnol o goed naturiol ac alwminiwm y tu allan i ffenestr godi sy’n gadarn a hawdd ei chynnal
  • Dyluniad cyfoes, sy'n ddelfrydol ar gyfer cartrefi newydd a 'dyluniadau mentrus'
  • Gwydr dwbl neu driphlyg
  • Mae gwerthoedd U isel yn golygu inswleiddio rhagorol - 0.8W / m2K ar gyfer unedau gwydr triphlyg
  • Fframiau cul iawn 54mm sy’n gwneud y mwyaf o olau dydd
  • Yn bodloni safonau ‘Secured by Design’
  • Caiff pob ffrâm ei wneud yn bwrpasol
  • Edrychiad unffurf yn creu ffasâd allanol cyfan yr olwg
  • Dewis o wahanol orffeniadau ffrâm y tu mewn a'r tu allan
  • Drysau patio casement, llithro a system drysau dwbl hefyd ar gael

Darllenwch fwy am VELFAC 200 yma.

Ffenestr VELFAC 200 – manylion

Ffrâm gyfansawdd
Mae'r ffrâm VELFAC nodweddiadol yn cyfuno alwminiwm allanol cadarn â choed mewnol naturiol. Trwy osod y ffrâm godi alwminiwm symudol yn union o flaen y ffrâm goed sefydlog mae'r ffenestr yn creu effaith 'ffenestr godi sy’n arnofio’, ac mae’r sêl sy’n amddiffyn rhag y tywydd yn ychwanegu at yr effaith. Mae'r ffrâm gul yn gwneud y mwyaf o olau naturiol tra bod y ffaith eu bod yn unffurf yn golygu bod pob uned ffenestr yn edrych yr un fath y tu allan, waeth sut maent yn agor, gyda llaw neu drwy bwyso botwm, boed yn wydr dwbl neu driphlyg.

Dyluniad hawdd ei gynnal
Yn gallu gwrthsefyll y tywydd mwyaf eithafol, nid oes angen ailbeintio'r ffrâm alwminiwm allanol yn ystod ei oes.

Perfformiad thermol
Mae ffenestri VELFAC yn cynnig gwerthoedd U mor isel â 0.8W / m2K ar gyfer unedau gwydrog triphlyg. Mae'r ffrâm gul yn cyfrannu at inswleiddio thermol ardderchog (ac acwstig) gan fod gwydr yn well ynysydd na'r ffrâm.

Cynaliadwyedd
Mae cynaliadwyedd yn hanfodol i athroniaeth ddylunio VELFAC. Mae'r holl ddeunyddiau a ddefnyddir yn dod o ffynonellau cyfrifol, mae triniaethau coed yn seiliedig ar ddŵr, ac mae modd ailddefnyddio 93% o bob uned ffenestr.

Diogelwch
Mae ffenestri VELFAC 200 yn bodloni safonau Secured by Design ac maent yn cynnig nifer o nodweddion diogelwch gan gynnwys trimin gwydr mewnol (rhag gallu tynnu cwarel gwydr o’r tu allan), a systemau cloi aml-bwynt. Mae'r ffrâm alwminiwm allanol hefyd yn gadarn ac yn anodd eu gwthio o’r tu allan.

Opsiynau gwydr ac ategolion
Mae VELFAC yn cynnig dewis o opsiynau gwydro i addasu perfformiad ffenestri, gan gynnwys dewis o ddyluniadau gwydr didraidd i sicrhau preifatrwydd a diogelwch ychwanegol. Mae dolenni, colfachau, dyfeisiau diogelwch ac ategolion eraill a gynlluniwyd gan VELFAC hefyd ar gael.

Gorffeniadau fframiau
Mae'r ffrâm VELFAC safonol yn cynnwys alwminiwm allanol wedi'i orchuddio â phowdr polyester, a choed mewnol wedi'u paentio neu eu lacro. Mae’n bosibl dewis gorffeniad ffrâm mewn gwahanol liwiau y tu mewn a'r tu allan yn unrhyw un o'r lliwiau RAL, neu mewn haen wenithfaen neu haen wedi’i hanodeiddio (alwminiwm yn unig).

Gwarantau
Mae VELFAC yn cynnig gwarant gynhwysfawr 12 mlynedd ar bob ffenestr, a phum mlynedd ar bob drws casment, llithro a drysau allanol.

Drysau VELFAC

Os ydych chi'n prynu ffenestri VELFAC yna beth am gael drws ffrynt VELFAC? Mae drysau VELFAC yn cyfuno alwminiwm cadarn â phinwydd mewnol, ac maent ar gael mewn amrywiaeth o ddyluniadau cyfoes, gan gynnwys drysau fflwsh plaen neu gyda rhigol, neu wydr llawn neu gydag agoriadau gwydrog. Mae pob drws ffrynt VELFAC wedi'u hachredu gan 'Secured by Design' gyda nodweddion diogelwch gan gynnwys trimin mewnol, rhag gallu gwthio’r gwydr o’r tu allan, gwneuthuriad eithriadol o gadarn a systemau cloi aml-bwynt. Gellir cyfuno drysau VELFAC hefyd â ffenestri VELFAC 200 i greu drysau ffrynt gwydr.

Manteision defnyddio Dosbarthwr VELFAC

  • Gallwch weld ffenestri a drysau VELFAC mewn ystafell arddangos dosbarthwr VELFAC, ynghyd â samplau gwydr, dewis o ategolion a samplau o liwiau fframiau
  • Cewch arweiniad arbenigol gan gynghorwyr VELFAC hyfforddedig, i sicrhau bod eich ffenestri'n creu'r effaith rydych chi am ei chael o ran y dyluniad a'r perfformiad technegol
  • Bydd staff gosod sydd wedi’u hyfforddi yn gweithio gyda'ch adeiladwr a'ch pensaer i sicrhau bod ffenestri a drysau’n cael eu gosod yn iawn yn unol â’r amserlen a’r gyllideb.
  • Gallwch gynllunio’ch prosiect gyda sicrwydd gan fod cefnogaeth gynhwysfawr yn ystod pob cam o’r prosiect, o’r gwaith dylunio cychwynnol i ôl-osod.
Gweld Oriel Llun

Fe fydda i'n fwy na pharod i'ch argymell i unrhyw un sy'n meddwl am ddefnyddio eich cwmni. Diolch am eich proffesiynoldeb a'ch ymddygiad yn gyffredinol yn ystod y gwaith.
M Thompson, Bangor, Gwynedd

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Markilux Logo Solarlux Logo Solidor Logo Rationel Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo VELFAC Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...