Ffenestri a Drysau Rationel

Am Rationel

Mae Rationel, sydd wedi bod yn arloesi a datblygu nwyddau ers dros 60 mlynedd, yn un o brif frandiau ffenestri a drysau Ewrop gydag enw da am ansawdd ac arloesedd a rhwydwaith dosbarthu cadarn. Fe’i sefydlwyd yn Nenmarc yn 1954, mae Rationel bellach yn rhan o DOVISTA - Grŵp o gwmnïau ffenestri a drysau blaenllaw, a bob blwyddyn mae'n gwneud ac yn cyflenwi dros 350,000 o ffenestri ledled y byd.

Ffenestri a drysau Rationel – yn ddelfrydol ar gyfer:

  • Adnewyddu – newidiwch hen ffenestri a drysau neu rai sy'n perfformio'n wael am ffenestri a drysau ffasiynol, o wneuthuriad da fydd yn para’n hir
  • Estyniadau – ffenestri newydd ar gyfer prosiectau newydd i sicrhau inswleiddio rhagorol, gwneuthuriad cadarn ac mewn steil sy’n gweddu i'ch cartref presennol
  • Cartrefi traddodiadol a modern – gyda dau steil ar gael, clasurol a chyfoes, gall pob cartref fwynhau manteision ffenestri a drysau Rationel
  • Cartrefi wedi'u hysbrydoli gan Sgandinafia – ffenestri a drysau gyda phwyslais ar ystafelloedd llawn golau, crefftwaith arbennig a gorffeniad gwych

Darllenwch fwy am ffenestri a drysau Rationel yma.

AURA ac AURAPLUS

Y ffenestr ddelfrydol ar gyfer cartrefi modern a chyfoes. Mae'r ffrâm lyfn, wastad yn cynnig llinellau glân a gorffeniad fflwsh, gan ychwanegu naws Sgandinafaidd i bob ystafell. Ychwanegwch fariau gwydrau i gael mwy o fanylder neu cadwch bethau'n syml gyda gwydr hardd, cyfan yr olwg.

AURA – prif nodweddion a manteision

  • Ffrâm goed gadarn
  • Disgwylir iddynt bara am 60 mlynedd
  • Gwydr dwbl neu driphlyg
  • Ar gael mewn mwy na 200 o liwiau
  • Yn bodloni safonau Secured by Design

AURAPLUS – prif nodweddion a manteision

  • Ffrâm goed gadarn wedi'i gorchuddio'n allanol ag alwminiwm
  • Disgwylir iddynt bara am 83 mlynedd
  • Gwydr dwbl neu driphlyg
  • Ar gael mewn mwy na 200 o liwiau
  • Fframiau mewn dau liw heb unrhyw gost ychwanegol
  • Yn bodloni safonau Secured by Design

Darllenwch fwy am Rationel AURA ac AURAPLUS yma.

FORMA a FORMAPLUS

Wedi'u cynllunio i ategu pensaernïaeth draddodiadol Prydain, mae ffenestri FORMA a FORMAPLUS yn cynnwys manylion fydd ddim yn dyddio, fel ymylon pefel a thrimin gwydr onglog, sy'n gwneud y ffenestri hyn yn ddelfrydol ar gyfer cartrefi clasurol neu dai hŷn. Mae opsiwn i ychwanegu bariau gwydrau i greu’r gorffeniad perffaith.

FORMA – prif nodweddion a manteision

  • Ffrâm goed gadarn
  • Disgwylir iddynt bara am 60 mlynedd
  • Gwydr dwbl neu driphlyg
  • Ar gael mewn mwy na 200 o liwiau
  • Yn bodloni safonau Secured by Design

FORMAPLUS – prif nodweddion a manteision

  • Ffrâm goed soled wedi'i gorchuddio'n allanol ag alwminiwm
  • Disgwylir iddynt bara am 83 o flynyddoedd
  • Gwydr dwbl neu driphlyg
  • Ar gael mewn mwy na 200 o liwiau
  • Fframiau mewn dau liw heb unrhyw gost ychwanegol
  • Yn bodloni safonau Secured by Design

Darllenwch fwy am Rationel FORMA a FORMAPLUS yma.

Ffenestri RATIONEL – manylion

Hynod wydn
Mae ffenestri AURA a FORMA wedi’u gwneud yn gyfan gwbl o goed, maent yn hynod wydn ac mae disgwyl iddynt bara am 60 mlynedd. I gael tawelwch meddwl ychwanegol, ac ar gyfer lleoliadau sy’n fwy agored i’r tywydd, dewiswch AURAPLUS neu FORMAPLUS. Mae'r rhain yn cynnwys ffrâm allanol gyda chladin alwminiwm sy'n golygu y bydd eich ffenestri’n para am 20+ mlynedd ychwanegol, heb lawer o waith cynnal a chadw.

Cynnes a chlyd
Cadwch yn gynnes ac yn glyd gyda Rationel. Cewch ddewis gwydr dwbl neu driphlyg i helpu i wneud bob ystafell mor gysurus â phosibl. Mae inswleiddio rhagorol hefyd yn golygu bod lefel y sŵn yn llawer is, felly ychwanegwch dawelwch at restr manteision Rationel.

Diogelu’r amgylchedd
Beth am leihau eich ôl troed carbon, a'ch biliau ynni, gyda ffenestri ynni-effeithlon. Mae fframiau cul hardd (wedi'u gwneud o goed ardystiedig FSC®) wedi'u cynllunio fel bod mwy o olau dydd yn dod i mewn. Mae ffenestri Rationel hefyd yn cynnwys 'Label Hinsawdd Dan Do' Denmarc, sy’n golygu na fyddant yn rhyddhau sylweddau gwenwynig ar ôl iddynt gael eu gosod.

Tai diogel
Mae'r holl ffenestri Rationel sy’n agor am allan yn bodloni safonau Secured by Design, sy'n golygu eu bod wedi'u cynllunio i wrthsefyll unrhyw ymgais gan ladron i dorri i mewn i'ch cartref. Mae nodweddion fel gwaith haearn cadarn ychwanegol, gwydr wedi'i lamineiddio a systemau cloi aml-bwynt i gyd yn helpu i'ch cadw'n ddiogel.

Ffenestri wedi'u teilwra i'ch cartref
Mae ffenestri Rationel yn cael eu cynhyrchu’n benodol i bob archeb felly gwnewch bob ffenestr yn unigryw i chi eich hun. Cewch ddewis ffenestri sy’n agor mewn gwahanol ffyrdd, ac mae dewis arbennig o liwiau a gorffeniadau – gallwch hyd yn oed ddewis lliw gwahanol y tu mewn a'r tu allan. A pheidiwch ag anghofio'r gwydr – os oes angen mwy o breifatrwydd neu ddiogelwch arnoch, mwy o reolaeth solar, gwella lefel y sŵn, neu hyd yn oed paneli lliw llachar, mae opsiynau ar gael.

Drysau

Gwnewch argraff gyda drws Rationel. Dewiswch y drws delfrydol ar gyfer eich cartref a'ch ffordd o fyw o'n dewis o ddyluniadau, lliwiau a gorffeniadau, gan gynnwys drysau fflwsh a gwydrog, a drysau patio. Os ydych chi am steil modern dewiswch ddrysau AURA neu AURAPLUS mewn cladin alwminiwm, neu dewiswch FORMA neu FORMAPLUS mewn cladin alwminiwm am edrychiad mwy traddodiadol. Mae ein drysau i gyd wedi'u gwneud o ddeunyddiau cryf, o ansawdd uchel ac yn bodloni safonau Secured by Design sy'n golygu ei bod yn anodd iawn i rywun dorri i mewn.

Mwy o wybodaeth am ddrysau Rationel yma.

Fel dosbarthwr Rationel, rydym yma i'ch helpu i wneud y dewis iawn

Gall ffenestri newydd fod yn benderfyniad mawr, ac mae angen bod yn siŵr eich bod yn gwneud y dewis iawn ar gyfer eich cartref.

  • Dewch i weld ffenestri a drysau Rationel yn ein hystafell arddangos – ewch weld y nwyddau sy'n cael eu harddangos drosoch eich hun, ynghyd â samplau gwydr, dewis o ategolion, a samplau o liwiau fframiau
  • Siaradwch â'n harbenigwyr am eich prosiect – maent wedi'i hyfforddi ym mhob agwedd o Rationel, gall ein tîm cyfeillgar drafod eich cynlluniau a mynd â chi drwy'r broses brynu, o’r syniadau cychwynnol hyd at y gwaith gosod
  • Gwybodaeth leol, gwasanaeth lleol – gallwn ymweld â'ch cartref i fesur cyn gosod eich ffenestri newydd, a gallwn hefyd gynnig dewis o nwyddau a gwasanaethau am ddim
  • Pecynnau cyflenwi a gosod llawn – mae gosod ffenestri yn waith sy’n gofyn am sgiliau, ac fel dosbarthwr Rationel rydym wedi'n hyfforddi'n llawn i sicrhau bod eich ffenestri a'ch drysau Rationel hardd yn cael eu gosod yn berffaith
  • Cymorth ar ôl gosod – dydi’r gwasanaeth ddim yn gorffen ar ôl gosod eich ffenestri, rydym yn barod i helpu gydag unrhyw gwestiynau ar ôl eu gosod neu addasiadau terfynol.
Gweld Oriel Llun

We are delighted with our project, it's everything we hoped and so much more, a massive thanks to all involved. So, so pleased.
Mr & Mrs Jones, Conwy

Consumer Protection Association Logo FENSA Logo Secured by Design Logo
Atlas Logo Lumi Logo Markilux Logo Solarlux Logo Solidor Logo Rationel Logo Apeer Logo Bereco Logo Internorm Logo VELFAC Logo REHAU Logo The Residence Collection Logo Roseview Logo
 

Anfon e-bost... Arhoswch...