Gwelliannau i’r Cartref, Gwydrau Arbenigol, Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer
Mae Peninsula yn gwmni blaengar yng Ngogledd Cymru a Chaer sy’n gwneud gwelliannau i’r cartref ac yn gwasanaethu holl ardaloedd Gogledd Cymru, Caer a Swydd Gaer a thu hwnt.
Sefydlwyd y busnes teuluol hwn yn 1984 ac mae gennym enw da am ansawdd ein cynhyrchion a’r crefftwaith, ein partneriaethau gyda brandiau unigryw o safon, ein dewis eang o ddyluniadau ac arddulliau; ac am ein gwerthoedd craidd, gwasanaeth arbennig i gwsmeriaid a gwerth am arian.
Newid a Gosod Ffenestri, Drysau a Stafelloedd Gwydr Newydd
Mae Peninsula yn falch o fod yn gwmni blaenllaw yn ein diwydiant; rydym yn flaengar ac yn datblygu ein dewis o gynnyrch a’n gwasanaethau’n gyson i gynnig y dyluniadau a’r datblygiadau technolegol diweddaraf i wella eich cartref.
Rydym yn cyflenwi ac yn gosod amrywiaeth eang o gynhyrchion sydd wedi eu dewis yn ofalus gan weithgynhyrchwyr blaenllaw yn y diwydiant; mae ein dewis craidd yn cynnwys:
Newid a gosod drysau a ffenestri newydd mewn dewis eang o arddulliau a deunyddiau l Llefydd byw yn cynnwys stafelloedd gwydr, orendai, gerddi gaeaf, estyniadau unllawr a llawer mwy l Podiau gardd l Brandiau unigryw yn cynnwys Solarlux, Internorm, The Residence Collection, Apeer, VELFAC, Rationel a Roseview Collection | Gwelliannau i’r Cartref yn cynnwys, balconïau a balwstradau llinell doeau a gwydr.
Rydym yn darparu gwasanaeth cyflawn; o ddylunio i’r gwaith gorffenedig; a gyda’n gwasanaeth Dylunio ac Adeiladu a lansiwyd yn ddiweddar gallwn hyd yn oed ofalu am y gwaith cynllunio ac unrhyw waith adeiladu sydd ei angen.
Os oes gennych brosiect gwelliannau cartref yr hoffech ei drafod gyda ni yna mae croeso i chi gysylltu â ni.
Gadewch i helpu i wireddu eich breuddwydion...